Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) yn darparu meincnodau ar gyfer perfformiad cymwys. Arweinir y cynnwys gan alw ac mae'n cael ei seilio ar dystiolaeth gan y diwydiant. Mae'r NOS yn sail i hyfforddiant galwedigaethol, prentisiaethau a chymwysterau ledled y DU, ym mhob sector a galwedigaeth. Mae CITB yn datblygu ac yn cynnal y safonau hyn ar gyfer y diwydiant adeiladu.
Gweld rhestr o'r meysydd galwedigaethol y mae CITB yn gweithio arnynt
Gallwch ddefnyddio'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol hyn i:
- ddisgrifio arferion da mewn meysydd gwaith penodol
- nodi datganiad cymhwysedd
- darparu adnoddau ar gyfer amrywiaeth o offer rheoli gweithlu a rheoli ansawdd
- cynnig fframwaith ar gyfer hyfforddi a datblygu.
Mae'r safonau wedi'u llunio mewn 'cyfresi' o dan feysydd galwedigaethol a gellir eu gweld yn unigol ar y gronfa ddata Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.
Hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith
I basio NVQ neu uned am gymhwyster yn llwyddiannus, mae'n rhaid i ddysgwyr ddarparu tystiolaeth wedi'i seilio yn y gwaith o'u gallu. Ar gyfer nifer gyfyngedig o eitemau ychwanegol mewn uned, mae'n bosibl dangos eu sgiliau mewn amgylchedd efelychiadol (i ffwrdd o'r gwaith) - er bod rhaid cynnal hyn yn unol â rheoliadau asesu.
Gweld y rhestr gyfredol o unedau y mae'n bosibl eu cwblhau mewn amgylchedd i ffwrdd o'r gwaith (PDF 187KB)
Safonau dan adolygiad
Mae'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn aml yn cael eu hadolygu, eu haddasu a'u diweddaru i ddiwallu anghenion y diwydiant. Mae CITB yn cydlynu'r holl adolygiadau prosiect ar gyfer galwedigaethau adeiladu ac yn annog eich mewnbwn.
Gweld manylion y cyfresi sy'n cael eu hadolygu 2018-2019